Dwynwen a’r Ych
25 01 2009Unwaith eto, mae’n amser hir ers imi ysgrifennu yma, ond fe fydd hynny’n newid yn y flwyddyn newydd! Pa blwyddyn newydd? Nid 2009, ond Blwyddyn yr Ych. Heddiw, fel rwy’n siwr y fydd llawer ohonoch yn gwybod, yw Nos Galan yn China. O ble wi’n eistedd yn fy rhandy mae’n swnio fel petai ryfel bach wedi dechrau tu allan; mae defnydd o firecrackers yn cyfreithiol o heddi ymlaen… Heno, ac am yr wythos nesa, bydd y sŵn yn ddi-stop… Byddai’n trio recordio dipyn o fideo heno; rwy’n bwriadu mynd lawr i’r llynoedd yng nghanol Beijing hanesyddol, i gerdded ar y iâ… bydd hi’n -11° C yn ôl bob sôn… brrrr…
Mae’n rhaid imi cyfaddef… Mae pythefnos ola’ o Flwyddyn y Llygoden wedi bod anhygoel o ffodus i mi. Rwy wedi cael cytundeb newydd yn y gwaith – sy’n meddwl, yn y bon, mod i wedi penderfynu o’r diwedd mod i eisiau aros yma ym Meijing am ddwy flynedd o leia (er nid yw’r cytundeb yn barhau am 2 flynedd, ond…). Mae cyfleoedd newydd i weithio ar fy liwt fy hun wedi ymddangos, os dwi am fanteisio arynyn nhw.
Ac, mae cariad newydd ‘da fi. Nid China yn unig sy’n dathlu heddiw… Yng Nghymru hefyd, oherwydd Diwrnod Santes Dwynwen. Na allwn i wedi dychmygu, hyd yn oed yn cymharol diweddar, fe fyddwn yn byw ym Meijing, yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen gyda cariad Tatar o Orllewin Siberia! Mae’n anhygoel rili, beth all digwydd….
Wel… hoffwn dymuno blwyddyn newydd dda / 新年快乐 / Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd! Byddaf yn sgwennu yma yn fwy aml nawr!








Recent Comments